KEW | Knowlege Exchange Wales | Cyfnewid Gwybodaeth Cymru | Connecting Business with Universities
Hafan Ynglyn â KEW Newyddion Digwyddiadau Cysylltwch â ni Oriel Cyfarfod â'n Haelodau
The KEW Network | Find out what it offers businesses
Benefits to Business | Find out how businesses will benefit
Now KEW will grow and develop
Ynglyn a KEW

KEW yw syniad arbenigwr arloesi busnes Prifysgol Abertawe, Ceri Jones.

Trwy edrych ar fodel Global Connect a ddechreuodd yn San Diego, lle sylweddolodd grwp o arweinwyr a phencampwyr busnes â diddordebau ymchwil a datblygu fod angen cydweithredu'n lleol er mwyn cystadlu ar raddfa fyd-eang, sylweddolodd Ceri fod hon yn ffordd werthfawr i rwydwaith busnes Cymraeg ddatblygu.

Gan ystyried y gwahaniaethau rhwng model Cymru a San Diego, sylweddolodd Ceri mai rhwydwaith busnes wedi'i arwain gan brifysgol fyddai'r ffordd gorau ymlaen i Gymru, ac aeth yn ei flaen i ymrestru cymorth Swyddfa Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Bangor; un yr oedd yn ei ystyried yn uchel am ei sgiliau ac arbenigedd, yn ogystal â chaniatáu i'r rhwydwaith ymestyn drwy'r wlad gyfan.

Gyda chymorth Bryn Jones, Rheolwr Datblygu Busnesu ym Mhrif ysgol Bangor, cyflwynodd Ceri gais ar y cyd i Gronfa Arbenigedd Academaidd i Fusnesau Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac ar ôl darganfod fod ei gais yn llwyddiannus, ganwyd Cyfnewid Gwybodaeth Cymru.

Trwy gyfuno arbenigedd yng Ngogledd a De Cymru yn ogystal â rhannu eu sgiliau â busnesau, mae Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor yn falch iawn o gynnig rhwydwaith cynhwysfawr a fydd yn cynnig cyfleoedd ar raddfa genedlaethol a byd-eang i'r busnesau hynny sy'n cymryd rhan.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ynglyn ag Adran Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe yma.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ynglyn â Swyddfa Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Bangor yma.

Bottom Bar
Hafan Map o’r Safle Saesneg