KEW | Knowlege Exchange Wales | Cyfnewid Gwybodaeth Cymru | Connecting Business with Universities
Hafan Ynglyn â KEW Newyddion Digwyddiadau Cysylltwch â ni Oriel Cyfarfod â'n Haelodau
The KEW Network | Find out what it offers businesses
Benefits to Business | Find out how businesses will benefit
Now KEW will grow and develop
Digwyddiadau

Prifysgolion yn uno yn rhwydwaith newydd Cyfnewid Gwybodaeth Cymru

17 May 2010

Y Ganolfan Reoli, Prifysgol Bangor

Bydd ‘Y Brecwast Busnes Mawr’ yn lansio rhwydwaith KEW yng Ngogledd Cymru, fel rhan o Wythnos Fusnes Gwynedd 2010

Mae rhwydwaith newydd wedi cael ei lansio gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe, gyda’r nod o roi mynediad i fusnesau at arbenigwyr prifysgol a chyfleoedd i fasnachu ar raddfa fyd-eang.

Cyfnewid Gwybodaeth Cymru (KEW) yw’r rhwydwaith busnes Cymreig cyntaf i fod yn aelod o Global Connect, rhwydwaith arloesi a buddsoddi byd-eang ym myd busnes, sydd wedi’i leoli yn San Diego, California.

Meddai Bryn Jones, Rheolwr Rhwydwaith KEW Gogledd Cymru, sydd wedi’i leoli yn Swyddfa Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Bangor

“KEW ydi ni’n agor ein drysau i fusnesau a chynnig mynediad cyflymach iddynt at ein gwasanaethau busnes ac arloesi. Gan adeiladu ar lwyddiant Clwb Busnes Prifysgol Bangor byddwn yn cynnal nifer o ddigwyddiadau a gweithdai yn tynnu sylw at fanteision cydweithio gyda phartner academaidd. Gan gydweithio’n agos â’r tîm KEW ym Mhrifysgol Abertawe ein nod ydi cefnogi cwmnïau i wireddu amcanion busnes drwy eu galluogi i gael mynediad at gyfleoedd cyllido unigryw ar gyfer amrywiaeth o gynlluniau cydweithredol Ymchwil a Datblygu ac Arloesi a Sgiliau. “

Lansiwyd KEW yng Ngogledd Cymru ddydd Llun 17 Mai gyda brecwast a phanel yn trafod ‘Busnes byd-eang ar garreg eich drws, ydych chi’n agor y drws hwnnw?' Cynhaliwyd y brecwast yn y Ganolfan Rheolaeth ym Mhrifysgol Bangor a hwn oedd digwyddiad agoriadol Wythnos Busnes Gwynedd 2010.

Fe wnaeth yr Athro Colyn Gardner, Prif Weithredwr y Ganolfan Rheolaeth, a gadeiriodd y panel trafod, bwysleisio pwysigrwydd y rhwydwaith gan ddweud,

“Trwy rwydweithiau a digwyddiadau fel hwn y mae busnesau’n gallu mynd at y cyfleusterau, y doniau a’r wybodaeth sydd i’w cael ym Mhrifysgol Bangor, gan wneud cysylltiadau yr un pryd gyda marchnadoedd posibl led led Cymru ac yn fyd-eang.  Mae ymrwymiad Prifysgol Bangor i weithio ar y cyd wrth wraidd ein hymgyrch i sicrhau rhagoriaeth mewn ymchwil, dysgu a menter.  Mae rhwydwaith KEW yn llwyfan cadarn i ni ddatblygu’r cysylltiadau sy’n allweddol bwysig i’n galluogi i roi ein gwybodaeth ar waith a chyfrannu at lwyddiant a ffyniant Cymru."

Dywedodd Lesley Griffiths AC, Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau y bydd y rhwydwaith yn annog mwy o gydweithio rhwng diwydiant ac academia.

“Bydd y manteision yn ddeublyg.  Bydd yn galluogi academyddion i gael gwell dealltwriaeth o anghenion diwydiant ac, yr un pryd, helpu diwydiant i weld yr arbenigedd sydd ar gael a all wneud gwir wahaniaeth i fusnesau gan eu galluogi i dyfu a chystadlu'n llwyddiannus mewn marchnad fyd-eang."

Gyda chefnogaeth gan raglen Academia dros Fusnes Llywodraeth y Cynulliad, cafodd y rhwydwaith ei lansio'n swyddogol yn Abertawe lle dywedodd yr Athro Richard B. Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe,

“Rydym yn hynod falch o weithio gyda Phrifysgol Bangor ar y project yma i sicrhau y gall cwmnïau fanteisio ar amrywiaeth ehangach o gyfleoedd na’r hyn y gall dim ond un brifysgol ei gynnig. Rydym wrth ein bodd hefyd y bydd y cydweithio Gogledd-De hwn yn galluogi i Gyfnewid Gwybodaeth Cymru fod ar gael dros y wlad i gyd."

“Gyda’n gilydd mae gennym gyfoeth o sgiliau uwch, doniau arloesol a chyfleusterau gyda’r gorau yn y byd – sef y gofynion hanfodol ar gyfer economi wybodaeth. Mae prifysgolion sy’n canolbwyntio ar ymchwil yn gyforiog o syniadau newydd ac yn cynnig cyfleoedd gwych i gwmnïau blaengar sy'n dymuno dod i bartneriaeth â ni.”

Nodiadau i olygyddion

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Lisa Paxman, Swyddog Marchnata, Y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor ar
01248 365916
neu l.paxman@bangor.ac.uk

Am fwy o wybodaeth am Cyfnewid Gwybodaeth Cymru ewch i:
www.kewales.com

Am fwy o wybodaeth ar Global Connect  ewch i: www.globalconnect.ucsd.edu

  1. Wed 31st Mar

    Rhowch gyfle i raddedigion

    Village Hotel, Abertawe

    Read more

  2. Tue 2nd Mar

    Lansiad Cyfnewid Gwybodaeth Cymru wedi’i gefnogi gan fusnes

    Y Ganolfan Reoli, Prifysgol Bangor

    Read more

  3. Tue 27th Apr

    Gwybodaeth mentrwr yn datrys problemau busnes lleol

    Village Hotel, Abertawe

    Read more

  4. Mon 17th May

    Prifysgolion yn uno yn rhwydwaith newydd Cyfnewid Gwybodaeth Cymru

    Y Ganolfan Reoli, Prifysgol Bangor

    Read more

  5. Tue 25th May

    Cynyddu elw drwy rannu gwybodaeth

    Village Hotel, Abertawe

    Read more

  6. Tue 28th Sep

    Understanding Nordic Innovation Excellence

    Village Hotel, Abertawe

    Read more

  7. Tue 26th Oct

    Capitalise on low carbon

    Village Hotel, Abertawe

    Read more

  8. Tue 30th Nov

    Let’s get digital

    Village Hotel, Abertawe

    Read more

Bottom Bar
Hafan Map o’r Safle Saesneg