|
Mae Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor wedi dod at ei gilydd i ffurfio rhwydwaith busnes newydd a chyffrous, Cyfnewid Gwybodaeth Cymru (KEW), i gynnig eu harbenigedd a chyfleusterau arbenigol i fusnesau. Bydd KEW yn caniatáu i brifysgolion a busnesau gydweithio i yrru prosiectau cydweithredol â phartneriaid o'r un meddylfryd. Yr unig rwydwaith busnes o Gymru i fod yn aelod o Global CONNECT, Global Connect, y rhwydwaith busnes arloesi a buddsoddi byd-eang o glod rhyngwladol, bydd KEW yn caniatáu i'w aelodau gymryd rhan mewn cyfleoedd rhyngwladol ar gyfer datblygiad a thwf.
|