Mynychodd dros 40 o bobl busnes, oedd yn awyddus i ddysgu mwy am y gwahanol ffyrdd o recriwtio graddedigion i’w busnesau, ddigwyddiad ddoe a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Village.

Roedd digwyddiad a gynhaliwyd ddoe yng Ngwesty’r Village, wedi’i fynychu gan dros 40 o bobl busnes oedd yn awyddus i ddysgu mwy am y gwahanol ffyrdd o recriwtio graddedigion i’w busnesau.
Rhwydwaith Cyfnewid Gwybodaeth Cymru (KEW) a drefnodd y Recriwtio Rhagoriaeth: sef ffyrdd economaidd o dyfu eich busnes gyda graddedigion, helpu busnesau i ddarganfod mwy am y gwahanol gynlluniau sydd ar gael i’w cynorthwyo i ddatrys eu problemau recriwtio, neu i ymdrin â phrosiectau penodol o fewn y cwmni.
Gwnaeth siaradwyr digwyddiad KEW ymdrin â phob maes - siaradodd Bin Chen, cyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, am ei rôl fel person graddedig yn y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth rhwng y Brifysgol a Laing O’Rourke, siaradodd Andrew Jones, perchennog BBaCh lleol, am sut y mae graddedigion wedi gwneud gwahaniaeth i’w fusnes, a thrafododd Paul Jones o Corus Colors, busnes rhyngwladol â dros 40 mlynedd o brofiad yn datblygu a gweithgynhyrchu dur cyn-gorffen, waith cyfredol Corus gyda Phrifysgol Abertawe a’i graddedigion. Dywedodd Andrew Downie, sydd â’i gwmni NetBop Technologies wedi’i leoli yma yn Abertawe:
“Fel cyn-fyfyriwr o Brifysgol Abertawe, dewisais aros yn yr ardal a sefydlu fy musnes yma yn Abertawe gan ei bod yn ddinas wych ac mae llawer i’w wneud yma.
“Wrth i’r busnes ddod yn fwy sefydlog, roedd recriwtio staff yn anochel. Ceisiwyd cael staff drwy gwmnïau recriwtio, y ganolfan waith, a hysbysebu mewn papurau newydd, ond roedd yn amlwg yn weddol sydyn nad oedd nifer o’r bobl a gafodd gyfweliad, neu mewn rhai achosion a gafodd eu penodi, yn barod i ddysgu sgiliau newydd ac addasu i ffordd newydd o feddwl..
“Drwy gydweithio â GO Wales ac ITWales ym Mhrifysgol Abertawe, roedd modd i NetBop recriwtio graddedigion o bob oed oedd yn awyddus i ddysgu, yn brofiadol ac yn meddu ar yr angerdd i ddatblygu a chreu argraff. Nid yw’n gyd-ddigwyddiad felly bod NetBop yn cyflogi chwe gweithiwr, sydd ar ryw adeg neu’i gilydd yn raddedigion o Brifysgol Abertawe - ni allaf roi gwell argymhelliad o sgiliau a phrofiad y graddedigion na hynny!
““Nid yw cyflogwyr busnesau bychan yn rhoi cyfleoedd i raddedigion am nad oes profiad ganddynt – fy nghyngor i fyddai i roi’r cyfle i’r bobl yma, a gweld os ydynt yn medru gwneud gwahaniaeth i’ch busnes yn y modd y maent wedi gwneud i’n busnes ni.”
Cafodd y digwyddiad ei harwain gan Ceri Jones, Is Gyfarwyddwr yr Adran Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Abertawe a Chyfarwyddwr Cyfnewid Gwybodaeth Cymru. Dywedodd:
““Graddedigion yw enaid yr economi wybodaeth. Rydym yn cynhyrchu oddeutu 3000 o raddedigion y flwyddyn, ac mae 60% o’r rheiny yn cael swyddi i raddedigion o fewn chwe mis o orffen yn y Brifysgol.
“Mae nifer o gynlluniau y gall busnesau fanteisio arnynt wrth ystyried recriwtio talent ar lefel graddedig - megis GO Wales, Partneriaethau Cyfnewid Gwybodaeth, ITWales, Mynediad i Raddau Meistri ac Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth, i enwi rhai yn unig.
“Mae’r digwyddiad yma heddiw yn profi bod opsiynau posib ar gael sy’n addas i unrhyw fusnes – o BBaCh i gwmnïau rhyngwladol.”
Yn dilyn y cyflwyniadau, gwahoddwyd panel profiadol i’r llwyfan, sef Andrew Downie, Paul Jones a Paula Williams o GO Wales, David Notley o’r Partneriaethau Cyfnewid Gwybodaeth, a Dr Steve Hardy o Ysgol Beirianneg Prifysgol Abertawe - sydd â chryn brofiad o gydweithio rhwng y brifysgol a byd diwydiant, i dderbyn cwestiynau ac egluro mwy am y cynlluniau sydd ar gael i fusnesau.
Roedd yr adborth gan fusnesau a fynychodd y digwyddiad yn hynod o bositif, gyda’r cynrychiolwyr yn gwerthfawrogi natur di flewyn ar dafod y trafodaethau, yr wybodaeth werthfawr oedd ar gael gan gynrychiolwyr o’r cynllun, a’r cyfleoedd i rwydweithio.
Nodiadau ar gyfer golygyddion
Am ragor o wybodaeth cysyllter â Rachel Williams, Swyddog Cyfathrebu ar gyfer Adran Ymchwil ac Arloesi, Prifysgol Abertawe ar 01792 602962 neu r.williams@swansea.ac.uk
Recruiting excellence:
(Chwith i’r dde) David Knotley, Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth; Andrew Downie, NetBop Technologies; Paula Williams, GO Wales; Paul Jones, Corus Colors; a Dr Steve Hardy, Adran Beirianneg Prifysgol Abertawe, yn trafod gwahanol gynlluniau lleoliadau gwaith i raddedigion sydd ar gael i fusnesau.
Cyfnewid Gwybodaeth Cymru (KEW), rhwydwaith a grëwyd gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor, sy’n anelu at ddarparu adnoddau ac arbenigedd y prifysgolion i’r busnesau, ac fel aelod o Global Connect, yn rhoi llwyfan i aelodau i ddatblygu cyfleoedd rhyngwladol ar gyfer tyfiant a datblygiad.
Ewch i www.kewales.com