KEW | Knowlege Exchange Wales | Cyfnewid Gwybodaeth Cymru | Connecting Business with Universities
Hafan Ynglyn â KEW Newyddion Digwyddiadau Cysylltwch â ni Oriel Cyfarfod â'n Haelodau
The KEW Network | Find out what it offers businesses
Benefits to Business | Find out how businesses will benefit
Now KEW will grow and develop
Newyddion

02 Mar 2010 Lansiad Cyfnewid Gwybodaeth Cymru wedi’i gefnogi gan fusnes

Dyddiad: 2il Mawrth 2010 – Lansiad Cyfnewid Gwybodaeth Cymru wedi’i gefnogi gan fusnes

image_01.jpgLansiwyd rhwydwaith newydd yr wythnos ddiwethaf sy’n darparu cysylltiadau i fusnesau ag arbenigwyr prifysgol ac yn cynnig platfform iddynt ddatblygu cyfleoedd ar gyfer masnachu ar raddfa fyd-eang gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor (23ain Chwefror 2010).

Yn dilyn digwyddiad y lansiad brecwast, yn y Village hotel, Abertawe, gwnaeth un busnes, ASAHI Photoproducts Ltd, groesawu’r cyfle i ymuno â Chyfnewid Gwybodaeth Cymru (KEW).  Dywedodd David Galton, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, a siaradodd yn y digwyddiad:

“Mae ASAHI wedi datblygu perthynas â Phrifysgol Abertawe dros gyfnod o 15 mlynedd – sy’n adrodd cyfrolau o’r safbwynt bod y cwsmer arbennig hwn wedi’i foddhau, ac wedi dymuno gwneud mwy o fusnes gyda’r Brifysgol.


“Yn sgil effaith y dirwasgiad byd-eang, mae angen gwella cynhyrchedd, mabwysiadu defnyddiau newydd, a lleihau effaith amgylcheddol. Gellir dim ond gyflawni hyn drwy weithredu dulliau gwyddonol. Mae’r Ganolfan Argraffu a Chotio Cymru a leolir ym Mhrifysgol Abertawe, yr ydym wedi gweithio yn helaeth â nhw yn unigryw. Mae ganddyn nhw enw ardderchog ar gyfer datblygu gwyddoniaeth cynnal berthnasol a bod yn barod i’w drosglwyddo i’r byd diwydiant. Mae hyn wedi bod o fudd mawr i ni. Mae lles y cysylltiadau a chydweithrediadau hyn yn amhrisiadwy.”

“Bydd Cyfnewid Gwybodaeth Cymru yn ymdrin â mater yr wyf wedi bod yn ymwybodol ohono drwy gydol perthynas ASAHI â’r Brifysgol – mae eu hymchwil gwyddonol a’u sgiliau trosglwyddo gwybodaeth yn anhygoel, ond maen nhw’n goleuo cannwyll a’i dodi dan lestr. Hwyrach drwy KEW a Global CONNECT, gall y prifysgolion sy’n cymryd rhan gael effaith fyd-eang.”

image_02.jpgKEW yw’r rhwydwaith busnes gyntaf, a’r unig un yng Nghymru sy’n aelod o’r rhwydwaith arloesi busnes a buddsoddi rhyngwladol adnabyddus GLOBAL CONNECT, a’r cyntaf i uno gogledd a de Cymru, â’r bwriad o osod y byd diwydiant a’r byd academaidd yng Nghymru ar y map.

Ceri Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Adran Ymchwilio ac Arloesi ym Mhrifysgol Abertawe, arweiniodd y rhwydwaith. Yn siarad yn y digwyddiad, meddai:

“Bydd KEW yn ymdrechu i uno academyddion a busnesau a sefydliadau yng Nghymru, gan roi hwb i’r economi leol a chaniatáu i Gymru fasnachu ar raddfa fyd-eang.

“Rydym yn ymwybodol bod y sgiliau gyda ni yn y ddwy brifysgol i helpu busnesau i ddatblygu, gwneud cynnydd a chystadlu ar raddfa fyd-eang, ac rydym eisiau helpu’r economi yng Nghymru i dyfu.

“Rydym yn anelu’n uchel. Rydym yn gobeithio mai KEW bydd y rhwydwaith busnes mwyaf yng Nghymru”.

image_03.jpgMae’r bartneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor yn gref, ac yn sicrhau y bydd pecyn cynhwysfawr o sgiliau ac arbenigedd yn cael ei gynnig i fusnes, pan Wales. Mae hon yn ffaith a nodwyd gan dîm Arbenigedd Academaidd i Fusnesau Llywodraeth Cynulliad Cymru cyn dyfarnu’r ariannu ar gyfer y prosiect.

Dywedodd Lesley Griffiths, Dirprwy Weinidog ar gyfer Gwyddoniaeth, Arloesedd a Sgiliau, y byddai’r rhwydwaith yn hybu mwy o gydweithio rhwng y byd diwydiant a’r byd academaidd.

“Bydd y manteision yn ddeublyg. Byddant yn galluogi academyddion i ddeall anghenion y byd diwydiant yn well gan helpu’r byd diwydiant i gydnabod yr arbenigedd sydd ar gael a fyddai’n gallu gwneud byd o wahaniaeth i fusnesau a’u galluogi i dyfu a chystadlu’n llwyddiannus yn y farchnad fyd-eang. “

Mae gan Brifysgol Abertawe ynghyd â Phrifysgol Bangor sawl arbenigedd allweddol sydd eu hangen gan fusnesau, a hanes nodedig o gydweithio â byd diwydiant. Mae rhwydwaith KEW yn agored i bob busnes â diddordeb mewn datblygu a dysgu mwy ynglyn â’r hyn y mae prifysgolion yn eu cynnig i fusnesau.

Mae rhaglen o ddigwyddiadau KEW sydd wedi’u cynllunio dros y flwyddyn nesaf ar gael ar ein tudalen weithgareddau..

image_05.jpgAm ragor o wybodaeth
Cysylltwch â Rachel Williams,
Swyddog Cyfathrebu,
Adran Ymchwil ac Arloesi,
Prifysgol Abertawe,
ar 01792 602962, 07882 488412 neu r.williams@abertawe.ac.uk.

Siaradwyr arloesol yn lledu’r gair
Yr Athro Richard B Davies, Is-ganghellor y Brifysgol;
Bryn Jones, Rheolwr Rhwydwaith Gogledd Cymru ar gyfer KEW;
Ceri Jones, Cyfarwyddwr y Rhwydwaith, KEW;
a David Galton, ASAHI Photoproducts (UK) Ltd

Return to the News list
  1. news image 28.Sep.2010

    Understanding Nordic Innovation Excellence

    Knowledge Exchange Wales is delighted to return after our summer break with details of the first of our autumn series of seminars.

    Read More...
  2. news image 17.May.2010

    Prifysgolion yn uno yn rhwydwaith newydd Cyfnewid Gwybodaeth Cymru

    Mae rhwydwaith newydd wedi cael ei lansio gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe, gyda’r nod o roi mynediad i fusnesau at arbenigwyr prifysgol a chyfleoedd i fasnachu ar raddfa fyd-eang.

    Read More...
  3. news image 29.Apr.2010

    Gwybodaeth mentrwr yn datrys problemau busnes lleol

    Cafodd problem busnes un cynrychiolydd yn nigwyddiad Cyfnewid Gwybodaeth Cymru ei datrys gan Phil Lake, un o’r siaradwyr gwadd sy’n fentrwr lleol. (27/4/10)

    Read More...
Bottom Bar
Hafan Map o’r Safle Saesneg