Dyddiad: 29 Ebrill 2010 - Gwybodaeth mentrwr yn datrys problemau busnes lleol
Cafodd problem busnes un cynrychiolydd yn nigwyddiad Cyfnewid Gwybodaeth Cymru ei datrys gan Phil Lake, un o’r siaradwyr gwadd sy’n fentrwr lleol. (27/4/10)
Bu Mr Lake, Prif Weithredwr Lakeside Security, yn siarad yn ystod digwyddiad arloesi busnes y rhwydwaith sef Trading Places - sydd wedi’i anelu at helpu busnesau i gael mynediad i farchnadoedd yn Tsieina a Hong Kong - ac i rannu ei brofiad helaeth mewn mewnforio a chynhyrchu.
Hefyd yn siarad roedd Sam Yuan o gwmni telathrebu enfawr, Huawei, Adela Liew o Invest Hong Kong, Bjorn Segerblom o Barc Gwyddoniaeth Honk Kong , a Mark Jones o Gyngor Busnes Tsieina – Prydain.
Yn dilyn y trafodaethau ffurfiol yn ystod y cyfarfod brecwast, daeth ymholiad i law yn dilyn y sesiwn cwestiwn ac ateb gan gynrychiolydd oedd â diddordeb mewn mewnforio maint bach o nwyddau o Tsieina, ond roedd cost sylweddol yr amlwyth mewnforio yn ei rwystro.
Gydag un ar ddeg blwyddyn o brofiad yn mewnforio nwyddau o Tsieina, llwyddodd Mr Lake i ddatrys problem y cynrychiolydd drwy gynnig rhannu ei arbenigedd, ei gysylltiadau ac amlwythi. Dywedodd:
“Dros y ddegawd ddiwethaf rwyf wedi sefydlu nifer o fusnesau llwyddiannus o ganlyniad i’r cysylltiadau sydd gennyf yn Tsieina.
“Rwy’n wynebu beirniaid yn gyson sy’n ensynio fy mod yn dwyn swyddi o’r economi Gymreig drwy ddefnyddio cydrannau sydd wedi’u cynhyrchu yn Tsieina, ond y ffaith yw, ni fyddai fy musnes yn bodoli ac yn cyflogi cymaint o bobl leol oni bai i mi ddarganfod sut i gadw costau cynhyrchu yn isel drwy ddefnyddio cydrannau sydd wedi’u mewnforio.
“Os yw cwmnïau’n ansicr am fewnforio yna mae modd iddynt ddechrau gyda nifer bychan hyd nes eu bod yn fodlon gyda’r safon a’r gwasanaeth. Rwy’n rhagweld bod gan y mwyafrif un cyflenwr yn unig ar gyfer nifer o gynhyrchion, felly pam na ellir defnyddio dau gyflenwr sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd?
“Mae’n rhaid i ni ddeall bod modd creu swyddi yn ein heconomi drwy ddefnyddio cyflenwyr rhyngwladol ar gyfer cydrannau. Gall mewnforio cydrannau o Tsieina a Hong Kong olygu arbedion anferth i gynhyrchwyr a chreu cwmnïau Cymreig gyda’r potensial i fod yn llwyddiannus yn rhyngwladol.”
Dywedodd Ceri Jones, Cyfarwyddwr Cyfnewid Gwybodaeth Cymru a Dirprwy Bennaeth yr Adran Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe, a gadeiriodd y digwyddiad,
“Mae’n rhaid i Gymru sylweddoli’r potensial sydd yn y marchnadoedd yn Tsieina a Hong Kong, nid yn unig drwy gynhyrchu ond ar gyfer cyfleoedd ymchwil a datblygu drwy gyfrwng y marchnadoedd anferth sy’n parhau i dyfu - yn ogystal â graddfa’r cyfleoedd gwerthiant sydd ar gael.
“Mae hwn yn bwnc estron i nifer o fusnesau Cymreig, ac mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn ceisio darbwyllo diwydiant i sylweddoli hyn ers cryn amser. Ein gobaith yw bod y digwyddiad yma gan Gyfnewid Gwybodaeth Cymru yn agor llygaid rhai i’r cyfleoedd sydd ar gael.
“Mae gwir stori llwyddiant yma heddiw – lle mae dyn busnes wedi gadael y digwyddiad â phroblem busnes wedi’i datrys wrth i arbenigwr rannu ei wybodaeth.”
Roedd y cynrychiolwyr a fynychodd y digwyddiad, a oedd yn cynnwys oddeutu 30 busnes, wedi cael argraff dda o’r adnoddau ac arbenigedd y siaradwyr yn y digwyddiad, a bu cryn frwdfrydedd ynglŷn â’r sesiwn rhwydweithio.
Mae Mr Lake, sy’n awyddus i weld mwy o lysgenhadon busnesau llwyddiannus yn arwain busnesau eraill i lwyddiant, ac yn dibynnu llai ar fentrau’r Llywodraeth, am rannu ei lwyddiant a helpu eraill i gyflawni’r un peth - ac mae gweithdy ar y gweill ar gyfer cynhyrchwyr i ddysgu mwy am y cyfleoedd yn y marchnadoedd yn Tsieina a Hong Kong.
Dylai’r busnesau sydd â diddordeb mynychu gysylltu â researchandinnovation@swansea.ac.uk neu 01792 606060. Bydd digwyddiad nesaf Cyfnewid Gwybodaeth Cymru, Increase Profits by Sharing Knowledge, yn cael ei gynnal yng ngwesty’r Village yn Abertawe ar 25 Mai am 2010 ac mae’n agored i bob busnes. Ceir rhagor o wybodaeth ar www.kewales.com
Nodiadau i olygyddion
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rachel Williams ar r.williams@swansea.ac.uk neu 01792 602962.

Trafod Trading Places : (Chwith i’r dde) Mark Jones, Cyngor Busnes Tseinia-Prydain; Adela Liew, Invest Hong Kong; Bjorn Segerblom, Parc Gwyddoniaeth Hong Kong; Sam Yuan, Huawei; a Phil Lake, Lakeside Security